Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fioamrywiaeth
Dydd Mercher 11 Mawrth 2015, 12.15 - 13.30
Ystafell Gynadledda C, Tŷ Hywel
Yn Bresennol |
|
Llyr Huws Gruffydd AC (LlG) |
Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol |
Jocelyn Davies |
Aelod Cynulliad |
Alun Ffred Jones |
Aelod Cynulliad |
Rosanna Raison (William Powell AC) |
Ymchwilydd a Swyddog y Cyfryngau |
Russel Hobson |
Cadeirydd Gwarchod Gloÿnnod Byw/ Grŵp Defnydd Tir a Bioamrywiaeth Cyswllt Amgylchedd Cymru |
Nigel Ajax-Lewis |
Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru |
James Byrne |
Ymddiriedolaethau Natur Cymru |
Raoul Bhambral |
Cyswllt Amgylchedd Cymru |
Clare Reed |
Cyswllt Amgylchedd Cymru / Cymdeithas Cadwraeth y Môr |
1. Croeso gan y Cadeirydd, Llyr Gruffydd AC
Croesawyd LlG yr aelodau i'r cyfarfod ac eglurodd mai ffocws y cyfarfod oedd trafodaeth agored ynghylch cyfeiriad nesaf y grŵp, gyda Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp yn dilyn.
2. Trafodaeth
Dechreuodd LlG drwy atgoffa'r cyfarfod o'r ffaith ei fod hefyd yn cadeirio'r Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig. Mae'r grŵp hwnnw wedi canolbwyntio ar ddeddfwriaeth, wedi gwahodd Gweinidogion i siarad ag ef, ac wedi rhoi cyflwyniadau ysgrifenedig i Weinidogion am effaith deddfwriaeth ar gymunedau gwledig.
Awgrymwyd y gallai'r grŵp hwnnw helpu i edrych ar Fil yr Amgylchedd ac ystyried bylchau yn y ddeddfwriaeth neu ddiffyg ei gweithredu, yn ogystal ag integreiddio rhwng Biliau.
Canlyniadau:
- Cynnal cyfarfod y gwanwyn ym mis Mai/Mehefin i ystyried deddfwriaeth i’r dyfodol, e.e. Bil bywyd gwyllt.
- Ystyried yr hyn sy'n digwydd mewn gweinyddiaethau datganoledig eraill, a gwahodd pobl i gynrychioli Grwpiau Trawsbleidiol yn y gweinyddiaethau eraill, e.e. yr Alban, gan ofyn am gyflwyniadau 10 munud ar sut maent yn gweithio.
- Mis Hydref – y cysylltiad morol, i edrych ar y ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth bresennol a'r hyn nad yw'n cael ei weithredu
Camau gweithredu ar gyfer RB / Scott Fryer
- Dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf - POB UN i'w gynnal am 12.15 – 13.15 yn Ystafell Gynadledda C (llawr gwaelod, dim angen hebryngydd) ddydd Mawrth 9 Mehefin, ddydd Mercher 21 Hydref, a dydd Mercher 3 Chwefror (CCB)
- Trefnu siaradwyr ar gyfer mis Mai/Mehefin a mis Hydref ar gyfer sesiwn amser cinio
3. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Agorodd LlG y llawr i enwebiadau ar gyfer rôl yr Ysgrifennydd. Nodwyd Cyswllt Amgylchedd Cymru, a fydd yn parhau i ddarparu'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y grŵp.
Russel Hobson yw'r person cyswllt, rhobson@butterflyconservationwales.org.uk.
Yna agorodd LlG y llawr i enwebiadau ar gyfer rôl y Cadeirydd. Cafodd LlG ei enwebu gan JB, gydag AFfJ yn eilio. Cafodd LlG ei ethol yn Gadeirydd eto.